Ni fu marwolaeth a marw erioed yn uwch ar agenda'r cyhoedd na thrwy bandemig Covid-19. Mae Hospice UK yn galw ar Lywodraeth Cymru nesaf i sicrhau bod gofal i bobl sy'n profi marwolaeth, marw a phrofedigaeth ar frig eu hagenda nhw hefyd, trwy ymrwymo i gyrraedd pob plentyn ac oedolyn ag angen gofal lliniarol.
Dros dymor nesaf y Senedd, bydd 170,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o blant, yn marw yng Nghymru a gallai'r mwyafrif - tua 80 y cant - elwa o ofal lliniarol. Mae'r rhain yn ffigurau anodd i’w derbyn, ond gallwn ni ddim adael i hynny olygu ein bod yn cilio rhag delio â phroblem gynyddol.
Fydd hi ddim yn dasg syml i gyrraedd pawb sydd angen gofal lliniarol, ac mae'r heriau'n rhai cyffredin erbyn hyn:
- Mae angen i ni ddiwallu angen cynyddol wrth i'n poblogaeth heneiddio ac wrth i oedolion a phlant fyw yn hirach gyda chyflyrau cymhleth;
- Mae angen i'n gwasanaethau symud eu ffocws i ffwrdd o ysbytai a mas i’r gymuned. Realiti hyn yw gorfod dyblu capasiti gofal lliniarol cymunedol a chartrefi gofal erbyn 2040;
- A, fel blaenoriaeth, mae angen mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau presennol o ran mynediad at ofal lliniarol sy'n arwain at un o bob pedwar o bobl yn colli mas ar ofal da. Mae hynny'n cyfateb i 6,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sydd naill ai heb gyrchu buddion gofal lliniarol yn ddigon buan; sydd heb gael rhyddhad poen cywir; neu sydd heb dderbyn gwasanaethau oherwydd dyw’r gwasanaethau sydd ar gael ddim yn diwallu eu hanghenion diwylliannol, crefyddol neu hunaniaethol.
Mae'n hollbwysig wynebu'r heriau hyn yng nghyd-destun yr hyn sy’n bwysig i bobl - i bob unigolyn a theulu ac o fewn fframwaith y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu cymuned leol.
Gan fyfyrio ar brofiadau pobl sy'n marw ac mewn profedigaeth, a thynnu ar arbenigedd ein harweinwyr clinigol a’n hosbis-aelodau, rydym wedi amlinellu pedwar cam y credwn y dylai llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i gyrraedd pob plentyn ac oedolyn ag angen gofal lliniarol yn hyn amgylchedd newidiol.
- Cyflwyno cynllun gofal diwedd oes cenedlaethol sy'n defnyddio dull system gyfan ac sy'n gosod taclo anghydraddoldebau wrth ei wraidd. Mae ehangu cyrhaeddiad gofal lliniarol y tu hwnt i ffiniau gwasanaethau hosbis ac arbenigol yn golygu cefnogi meddygon teulu, nyrsys ardal, cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref i ofalu am fwy o bobl yn y gymuned.
- Cynllunio i ddiwallu'r angen cynyddol am ofal diwedd oes at y dyfodol trwy gasglu'r data cywir am angen gofal lliniarol ar lefel poblogaeth a gwneud Cymru yn genedl lle mae cynllunio ar gyfer ein gofal diwedd oes yn norm.
- Darparu adnoddau i sicrhau sector gofal lliniarol a diwedd oes cynaliadwy fel y gall teuluoedd sydd angen hosbisau oedolion a phlant barhau i gael mynediad at y gofal hwn a gall cartrefi gofal ddiwallu angen cynyddol.
- Cynyddu gallu a gwytnwch mewn cymunedau i ofalu am bobl ar ddiwedd oes trwy gefnogi Cymru Garedig a darparu Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol sy'n addas i ddiwallu anghenion pobl trwy a thu hwnt i Covid-19.
Rydyn ni'n galw ar bob ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd i gefnogi ein huchelgais i weld pawb yng Nghymru sy'n profi marwolaeth, marw a phrofedigaeth yn cael eu cyrraedd mewn modd gofalgar a thosturiol.
Dadlwythwch y maniffesto llawn yn https://www.hospiceuk.org/senedd-maniffesto-2021
Dadlwythwch y maniffesto cryno yn https://www.hospiceuk.org/senedd-manifesto-2021-concise