Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.
Lawrlwythwch Gofal hosbis yng Nghymru 2017.
Am y cyhoeddiad hwn
Mae hosbisau yng Nghymru yn gwasanaethu ac yn dibynnu ar eu cymunedau lleol. Bydd pob hosbis annibynnol yng Nghymru wedi’i siapio gan y bobl a welwn.
Rydym wrth drobwynt ym myd iechyd a gofal yng Nghymru; mae deddfwriaeth newydd blaengar ar lesiant a newidiadau disgwyliedig ein demograffeg yn ei gwneud hi’n amserol bod y symudiad hosbis yng Nghymru yn cymryd stoc. Man cychwyn yw’r adroddiad byr hwn i ddeall ble yr ydym ni eisoes fel symudiad hosbis yng Nghymru, a hefyd ble mae angen inni fynd i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y dyfodol.
Mae hosbisau’n arloesi, yn datblygu gwasanaethau newydd ac yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol er budd y bobl hynny sydd angen gofal lliniarol a diwedd oes arbenigol. Mae’n iawn ein bod ni’n dathlu hyn. Fodd bynnag, rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon - mae’n rhaid i ni barhau i ymdrechu i ddeall y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn well, addasu ein gwasanaethau ac ehangu ein darpariaeth er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gallu elwa o ofal lliniarol arbenigol yn gallu cael mynediad ato.
Trystan Pritchard, Cadeirydd Hosbisau Cymru a Phrif
Weithredwr Hosbis Dewi Sant
Diolchiadau
Rydym yn ddiolchgar i hosbisau Cymru sy’n aelodau o Hospice UK am eu cymorth ac am ddarparu’r data sy’n sail i’r adroddiad hwn:
- Ymddiriedolaeth Bracken
- Hosbis y Ddinas
- Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn
- Hosbis y Cymoedd
- Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro
- Hosbis Tŷ Eos
- Sefydliad Paul Sartori
- Hosbis Hafren
- Tŷ Shalom
- Hosbis Dewi Sant
- Gofal Hosbis Dewi Sant
- Hosbis Cyndeyrn Sant
- Hosbisau Plant Tŷ Gobaith
- Tŷ Hafan
- Ymddiriedolaeth Tŷ Olwen
Ysgrifennwyd gan Catrin Edwards, Kathleen Caper a Eilidh Macdonald o Hospice UK.
Cyhoeddwyd gan Hospice UK ym mis Hydref 2017.