Content
Text

Ni fu marwolaeth a marw erioed yn uwch ar agenda'r cyhoedd na thrwy bandemig Covid-19. Mae Hospice UK yn galw ar Lywodraeth Cymru nesaf i sicrhau bod gofal i bobl sy'n profi marwolaeth, marw a phrofedigaeth ar frig eu hagenda nhw hefyd, trwy ymrwymo i gyrraedd pob plentyn ac oedolyn ag angen gofal lliniarol.

Dros dymor nesaf y Senedd, bydd 170,000 o bobl, gan gynnwys 1,000 o blant, yn marw yng Nghymru a gallai'r mwyafrif - tua 80 y cant - elwa o ofal lliniarol. Mae'r rhain yn ffigurau anodd i’w derbyn, ond gallwn ni ddim adael i hynny olygu ein bod yn cilio rhag delio â phroblem gynyddol.

Fydd hi ddim yn dasg syml i gyrraedd pawb sydd angen gofal lliniarol, ac mae'r heriau'n rhai cyffredin erbyn hyn:

  • Mae angen i ni ddiwallu angen cynyddol wrth i'n poblogaeth heneiddio ac wrth i oedolion a phlant fyw yn hirach gyda chyflyrau cymhleth;
  • Mae angen i'n gwasanaethau symud eu ffocws i ffwrdd o ysbytai a mas i’r gymuned. Realiti hyn yw gorfod dyblu capasiti gofal lliniarol cymunedol a chartrefi gofal erbyn 2040;
  • A, fel blaenoriaeth, mae angen mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau presennol o ran mynediad at ofal lliniarol sy'n arwain at un o bob pedwar o bobl yn colli mas ar ofal da. Mae hynny'n cyfateb i 6,600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn sydd naill ai heb gyrchu buddion gofal lliniarol yn ddigon buan; sydd heb gael rhyddhad poen cywir; neu sydd heb dderbyn gwasanaethau oherwydd dyw’r gwasanaethau sydd ar gael ddim yn diwallu eu hanghenion diwylliannol, crefyddol neu hunaniaethol.

Mae'n hollbwysig wynebu'r heriau hyn yng nghyd-destun yr hyn sy’n bwysig i bobl - i bob unigolyn a theulu ac o fewn fframwaith y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu cymuned leol.

Gan fyfyrio ar brofiadau pobl sy'n marw ac mewn profedigaeth, a thynnu ar arbenigedd ein harweinwyr clinigol a’n hosbis-aelodau, rydym wedi amlinellu pedwar cam y credwn y dylai llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i gyrraedd pob plentyn ac oedolyn ag angen gofal lliniarol yn hyn amgylchedd newidiol.

  1. Cyflwyno cynllun gofal diwedd oes cenedlaethol sy'n defnyddio dull system gyfan ac sy'n gosod taclo anghydraddoldebau wrth ei wraidd. Mae ehangu cyrhaeddiad gofal lliniarol y tu hwnt i ffiniau gwasanaethau hosbis ac arbenigol yn golygu cefnogi meddygon teulu, nyrsys ardal, cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref i ofalu am fwy o bobl yn y gymuned.
  2. Cynllunio i ddiwallu'r angen cynyddol am ofal diwedd oes at y dyfodol trwy gasglu'r data cywir am angen gofal lliniarol ar lefel poblogaeth a gwneud Cymru yn genedl lle mae cynllunio ar gyfer ein gofal diwedd oes yn norm.
  3. Darparu adnoddau i sicrhau sector gofal lliniarol a diwedd oes cynaliadwy fel y gall teuluoedd sydd angen hosbisau oedolion a phlant barhau i gael mynediad at y gofal hwn a gall cartrefi gofal ddiwallu angen cynyddol.
  4. Cynyddu gallu a gwytnwch mewn cymunedau i ofalu am bobl ar ddiwedd oes trwy gefnogi Cymru Garedig a darparu Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol sy'n addas i ddiwallu anghenion pobl trwy a thu hwnt i Covid-19.

Rydyn ni'n galw ar bob ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd i gefnogi ein huchelgais i weld pawb yng Nghymru sy'n profi marwolaeth, marw a phrofedigaeth yn cael eu cyrraedd mewn modd gofalgar a thosturiol.

Dadlwythwch y maniffesto llawn yn https://www.hospiceuk.org/senedd-maniffesto-2021

Dadlwythwch y maniffesto cryno yn https://www.hospiceuk.org/senedd-manifesto-2021-concise